Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

3 Mawrth 2014

 

CLA359 - Rheoliadau Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (Dirymu) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Citiau a Gwasanaethau Profi am HIV 1992 (O.S. 1992/460), sy’n ei gwneud yn drosedd, yn ddarostyngedig i eithriadau amrywiol, i wneud y canlynol—

—      gwerthu neu gyflenwi cit neu gydran profi am HIV i aelod o’r cyhoedd;

—      gwerthu neu gyflenwi cit profi am HIV heb hysbysiad rhybudd cysylltiedig; a

—      darparu gwasanaethau profi am HIV nas cyfarwyddir gan ymarferydd meddygol cofrestredig.

 

CLA361 -   Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012 (O.S. 2012/531) (“y Prif Reoliadau”) o ganlyniad i gyflwyno credyd cynhwysol gan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012.

 

Caiff rheoliad 49 ei ddiwygio er mwyn caniatáu ystyried y ffaith bod credyd cynhwysol yn cael ei dderbyn wrth benderfynu a ellir hepgor ffi tribiwnlys.

 

Caiff yr Atodlen i'r Prif Reoliadau hefyd ei diwygio i gynnwys prawf bod credyd cynhwysol wedi cael ei dalu o fewn y rhestr o ddogfennau penodedig y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda cheisiadau penodol a restrir yn yr Atodlen honno.